Darnau
Tawelwch
Y darn du rhwng
yr ennyd a’r funud fach
sy’n aros oes yn hirach,
y darn llwyd rhwng
diwedd y môr a’r gorwel,
y darn gwyn rhwng
gair a gair yn gorwedd,
y darn arian rhwng
dau enaid a dwy anal,
y darn aur rhwng
dwy wên a’r ddwy yn dyner,
cyfri’ rhain yw cyfrinach tawelwch –
y darnau sydd â’u lliwiau’n
deimlad anniffiniadwy
yn bod o’m mewn – dim byd mwy.
«
zurück |